Ar
ben arall i’r lein
Mis arall a dim diferun o law, felly dim llawer o bwynt mentro ar yr afonydd a gyda hyder yn isel oherwydd y tywydd heulog, bydd y wraig yn dweud yn aml fod eisiau gras hefo ni fel pysgotwyr, pawb yn diolch i’r drefn am haul a ninnau yn chwilota am ddewines i edrych a yw’n bosib trefnu cael tipyn o law.
Nid yw popeth ar stop wrth gwrs gan fod gan y gymdeithas ‘sgota arbenig ar chwe o lynnoedd y fro, mae dau o rhain wedi bod werth chweil i’r rhai sydd wedi mentro allan, mae Norman Closs, Fachwen a Arwel Roberts, Rhuddlan wedi cael dau Sadwrn arbenig gyda torgoch a brithyll brown yn dod i’r rhwyd.
Dros y Dyffryn mae Nantlle hefyd wedi bod yn arbenig, mae beth sewin a ambell i eog wedi mentro yno, a clywais fod Harri Wyn Owen, Talysarn, wedi colli ‘sgodyn, eog mwyaf tebyg yno, ‘ryn pryd fe brofodd Nantlle yn drech na un o hogiau’r fro yma yn ôl y sibrwd, efallai ei fod yn cael mwy o lwc ar y Teifi!
Mae’r Llyfni hefyd wedi cael y blaen ar y Seiont ar Gwyrfai gyda dau eog am 12 a 8 bwys wedi eu dal.
Nid yw’r tywydd such yn dod heb rhai bendithion yn ei sgil, gyda’r criw bach gweithgar o aelodau wedi bod wrthi yn gwella a ehangu ein isadeiledd, gwaith sydd wedi ei gwbwlhau yn ystod yr wythnosau diwethaf yw, gorffen y jeti newydd a Llyn Nantlle, bydd yn bosid ‘nawr i rai a sy’n ddibynol ar gadair olwyn ddreifio at lan y Llyn a ‘sgota oddia’r y lanfa. ‘Rydym hefyd wedi gwneud cais an gymorth i allu rhoi ‘wheelyboat’ fel rhan o gyfleusterau’r llyn. Mae’r gwch yma yn arbenig gan ei bod yn bosib i rai mewn cadair olwyn ei defnyddio heb gymorth, a drwy hyn yn rhoi’r anibyddiaeth sydd ddim yn bresenol mewn diddordebau eraill.
Mae gwaith o osod camfeudd a phontydd wedi eu gorffen yn ardal Cwm y Glo, mae’r gwaith yma o safon uchel a fydd yn gwneud pysgota ar y darn arbenig yma o’r afon yn fwy phleserus byth. Diolch i pawb yn enwedig y tir feddianwyr am ei cymorth a’i cydweithrediad.
Mater arall sydd wedi bod yn achosi gryn bryder ers blynyddoedd maith yw’r system a’r gwaith carthffos Caernarfon, mae trafferthion enbyd wedi bod yma ers tro, ‘roedd dyddiad wedi ei benodi yn ystod 2005 i foderneiddio’r holl system, ond daeth newydd arbenig rhyw ychydig wythnosau’n ôl fod y gwaith yw ddechrau yn ystod Medi eleni a bydd popeth wedi ei orffen erbyn Ebrill 2004. Mae’r cynlluniau yw gweld yng nghyntedd swyddfeydd Cyngor Gwynedd, Penrallt, Caernarfon.
Huw Price Hughes.
Llun –
Torgoch o Llyn Padarn