English Prif indecs Uned Busnes TG Lleoliad

 

Logo HG

Hyfforddiant Gwynedd

Y DDOLEN GYSWLLT HOLL BWYSIG YM MAES EICH ADDYSG A'CH DATBLYGIAD

Y SEFYDLIAD

Mae Hyfforddiant Gwynedd yn cyflwyno hyfforddiant effeithiol o safon uchel. Rydym yn parhau i ymestyn ein ffiniau, gan ddod a phrofiad newydd i farchnadoedd.

Ymwelwch ag unrhyw un o'n canolfannau hyfforddi ac fe'ch synnir gan yr hyn a ddarganfyddwch.

  • Adeilad fodern, croesawgar.
  • Staff proffesiynnol, cydwybodol.
  • Technoleg ddiweddaraf.
  • Dewis helaeth o gyfleoedd hyfforddi i'ch arwain i'r ganrif nesaf.
  • Gwarantu hyfforddiant o ansawdd da.
  • Enw da am weithredu cyfnewidiadau yn effeithiol ac yn ddiymdroi.
  • (Fe ddywed ein staff wrthych am yr holl brofiad a adeiladwyd yn ystod y 15 mlynedd diwethaf. Ond efallai bod ein cwsmeriaid a gafodd eu plesio wedi rhoi gair da amdanom eisioes).

    Y STAFF

    Mae Hyfforddiant Gwynedd wedi ei ymrwymo i gyflogi staff cymwys ym mhob un o'i adrannau. Gyda'r pwyslais ar effeithlonrwydd ac ansawdd da, mae'r holl staff yn derbyn hyfforddiant parhaus ynghyd â diweddaru eu sgiliau.

    DARPARU HYFFORDDIANT Y MEDRWCH YMDDIRIED YNDDO

    Yn Hyfforddiant Gwynedd 'rydym yn cymryd ein gwaith o ddifrif. 'Rydym yn ymdrin a'n cwsmeriaid fel unigolion ac ni chymerwn ddim yn ganiataol. Mae pob cwsmer yn ffrind a werthfawrogir. Byddwn yn teilwrio ein hyfforddiant i ofynion penodol a byddwn yn elwa ar gefnogaeth ELWa, ac ein Cyngor Hyfforddi a Menter Lleol, ynghyd â'r Awdurdod Lleol. Cwblheir y cylch hwn gan gyfleusterau lleol da y gallwch ddibynnu arnynt bob amser.

    Indecs am gwasanaethau

    Uned Busnes TG

    Lleoliad Y Canolfannau Hyfforddi


    Gwasanaethu Rhyngrwyd

    Internet Services