Ar
ben arall i’r leinDechrau blwyddyn a thymor arall, beth sydd on blaen tybed, mae un peth yn sicr mae cryn edrych ymlaen yn enwedig ar ôl wythnos olaf Hydref 02, or adeg yma hyd at ganol Ionawr eleni mae’r Seiont wedi cael ei bendithio gyda’r redfa orau a mwyaf o eogiad a welais ers dros 15 mlynedd, a dweud y gwir nid wyf erioed heblaw yn Canada a Alaska imi weld cyn gymaint o eogiaid mewn un pwll. Dydd Sadwrn cyn y nadolig ‘roedd 27 o bysgod braf ym mhwll William Owen, Pontrug, a gyda cymorth hael swyddogion adran Bysgodfeydd Asiantaeth yr Amgylchedd fe gafwyd dros 12,000 o wyau o bedair iar, mae rhain nawr yn neorfa’r Asiantaeth yn Nolgellau, gyda 18,000 o wyau sewin. Daw rhain yn ôl i Ddeorfa Crawia tua ganol Mai, wedyn os aiff popeth yn iawn fe fydd’r eogiaid bach yn cael eu gollwng yn yr Hwch, Peris a’r Caledffrwd, ar sewin yn cael eu gollwng fel rhan o gynllun gleisiaid yn Ffos y Dail, hon yw’r afon fechan sy’n tarddu is law i Eglwys Llanddeiniolen. Pethau’n dod yn ei blaen yn ardderchog.
‘Sgwn i faint o ddarllenwyr sydd wedi bod o amgylch o fro yn ystod gwylia’r nadolig, a wedi sylwi a’r y gwaith enfawr sydd wedi ei gwbwlhau drwy’r Cynllun Adnewyddu Cynefinoedd, yn ogystal a gwaith drwy nawdd Cist Gwynedd. Mae’r gwaith yma yn lledaenu drwy Ddyffrynoedd Peris a Nantlle, y lleoliadau presenol ble mae’r gwaith yn mynd ymlaen yw Nant Peris, Talysarn, Nantlle a Drws y Coed. ‘rydym yn gobeithio bydd gwaith dylunio yn dechrau yn y misoedd nesaf yn Nyffryn Gwyrfai.
Hefyd beth am y gwaith i greu’r ffordd newydd a cyfleusterau parcio ar lan Llyn Nantlle, mae’r gwaith yma wedi ei gwbwlhau diolch ’r ymgymerwr sef Bryn Hughes, Nantlle am waith arbenig. Gobeithio bydd y jeti wedi ei gosod yma yn ystod yr wythnosau nesaf. Tywydd yn dal y rhan yma o’r gwaith yn ôl.
Aros eto ar lannau’r Llyfni, mae cynigion wedi eu hanfon am y gwaith o adnewyddu Melin y Cim, Pontllyfni. Bydd y gwaith yma yn dechrau at ddiwedd Chwefror eleni. Cynllun Cwlwm Gwledig drwy Gyngor Gwynedd a cronfa Amcan 1 fydd’n arianu’r gwaith, gobeithio adrodd ymhellach ar hyn y mis nesaf.
Yn ogystal a’r gwaith uchod, fel y gwyddoch mae’n debyg, mae’r clwb wedi derbyn hawl cynllunio i adeiladu Canolfan at ddefnydd pysgotwyr ar ran o’r maes parcio ger y ddeorfa yn Crawia, cyn dechrau ar y cynllun yma bydd yn rhaid arwyddo cytundebau gyda’r cyngor, mae’r rhan yma o’r gwaith nawr mewn llaw.
I’r rhai sydd eisiau gwerthu unrhyw item o offer pysgota, hen neu newydd bydd y gymdeithas unwaith eto yn cynnal Arwerthiant o Offer Pysgota yng Ngwesty Dolbadarn, Llanberis am 7.00 nos Wener 14 Mawrth 2003. Mynediad am ddim ond bydd 10% or gwerthiant yn daladwy I’r clwb. Bydd arwerthwyr profiadol iawn gyda gofal am y noson. Os eisiau gwerthu cysylltwch a Dr Robin Parry neu Bert Parry, Llanberis. Gwynfor neu Gwyndaf Jones neu minnau ym Methel. John Roberts neu Dafydd Owen, Y Groeslon. Harry W. Owen, neu W.Bryn Williams, Talysarn. Alwyn Griffiths, Penygroes. Bydd hon yn noson arbenig.
Huw Price Hughes.